Nicolas Maduro, arlywydd Venezuela
Mae arlywydd Venezuela, Nicolas Maduro, wedi ymestyn y gwaharddiad ar fynd a dod dros y ffin rhwng ei wlad a Cholombia drws nesa’, ac wedi cyhoeddi Stad o Argyfwng yn nifer o ddinasoedd y gorllewin.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gyhoeddodd Mr Maduro na fyddai neb yn cael croesi’r ffin yn nhalaith Tachira, a hynny yn dilyn marwolaeth tri milwr a oedd ar batrôl yn yr ardal yn chwilio am smyglwyr.

Ond neithiwr, fe gyhoeddodd y byddai’r ffin yn parhau ar gau, nes bod y rheiny a saethodd y milwyr yn farw, yn cael eu dal.

Mae Nicolas Maduro yn rhoi ‘r bai ar smyglwyr a pharafilwyr o Colombia, am y trais sydd dros y blynyddoedd diwetha’ wedi lledu dros y ffin 1,400 milltir o hyd rhwng y ddwy wlad.