Mae’r teiffwn sydd wedi achosi tirlithriadau a llifogydd yng ngogledd y Ffilipinas, wedi gostegu rhywfaint, ond nid heb ladd beth bynnag saith o bobol. Mae dau o bobol yn parhau ar goll.

Mae asiantaeth dywydd llywodraeth y Ffilipinas yn dweud i gyflymder y gwyntoedd gyrraedd 100 milltir yr awr ddoe, gydag ambell hyrddiad yn 121 milltir yr awr. Mae disgwyl i’r corwynt, sy’n symud yn ara’, adael y wlad fory, gan fynd heibio i ddwyrain Taiwan ac anelu am Japan ddechrau’r wythnos nesa’.

Ymhlith y meirwon y mae dau frawd a laddwyd pan ddaeth tirlithriad dros cysgodfan dros dro yr oedden nhw wedi’i chodi yn nhre’ Bakun yn nhalaith fynyddig Benguet.

Fe laddwyd dau ddyn arall, yn annibynnol ar ei gilydd, mewn dau dirlithriad, ac fe gafodd dyn arall ei wasgu i farwolaeth gan goeden wrth iddi gwympo.

Mae nifer o ehediadau a theithiau fferi wedi’u canslo. Mae cannoedd o deuluoedd wedi’u symud i gysgodfannau, ac mae ysgolion wedi cau yn ardal y brifddinas, Manila.