Mae swyddogion De Corea wedi dweud eu bod yn fodlon cynnal trafodaethau gyda chynrychiolwyr o Ogledd Corea, mewn ymdrech i geisio lleihau’r tensiynau rhwng y ddwy wlad.

Fe fydd y cyfarfod yn digwydd yn Panmunjom, pentre’ ar y ffin rhwng y ddwy wlad, am 6yh heddiw, amser Seoul (10yb amser gwledydd Prydain) – mae hynny hanner awr wedi’r dedlein a gafodd ei phennu gan Pyongyang i Seoul ddad-gysylltu uchelseinyddion sydd ganddyn nhw ar hyd y ffin yn darlledu “propaganda” sy’n ceisio tanseilio’r Gogledd.

Yn ôl llefarydd ar ran y llywodraeth yn Seoul, fe fydd De Corea’n cael ei chynrychioli yn y cyfarfod gan Kim Kwang, cynghorydd yr arlywydd ar faterion diogelwch, a Gweinidog yr Uniad, Hong Yong-pyo.

Fe fydd Gogledd Corea’n anfon yr uwch swyddogion, Hwang Pyong So a Kim Yang Gon.

Mae Gogledd Corea wedi bygwth rhyfel oni bai fod De Corea yn dad-gysylltu’r uchelseinyddion sydd ar y ffin rhwng y ddwy wlad.