Mae miloedd o ffoaduriaid yn parhau’n sownd yn y tir neb rhwng gwlad Groeg a Macedonia, wrth i heddweision barhau i’w hatal rhag croesi’r ffin.

Dim ond grwpiau bychain o deuluoedd â phlant sy’n cael croesi’r ffin gan Heddlu Macedonia, a hynny er mwyn cerdded i’r orsaf drenau yn nhre’ Gevgelija, lle mae’r mwyafrif yn anelu am y ffin â Serbia cyn mynd, wedyn, tua Hwngari.

Mae’r rhai hynny a oedd yn methu croesi’r ffin, yn cynnwys nifer o ferched â phlant, wedi treulio’r noson yn yr awyr agored.

Ddoe, roedd yr heddlu wedi tanio grenadau ac wedi mynd benben â ffoaduriaid a oedd wedi trio rhuthro dros y ffin.