Mae pump o bobol wedi marw wedi i ddwy awyren fynd benben â’i gilydd yn yr awyr yn ne Califfornia.
Mae’r awdurdodau wedi cadarnhau fod pedwar o bobol ar fwrdd jet Sabreliner injan-ddwbwl a fu mewn gwrthdrawiad ag awyren Cessna 172.
Roedd y jet ar fenthyg gan y contractwyr milwrol, BAE Systems, a’r peilot yn y Cessna yn mynd ar drip traws-gwlad.
Roedd y ddwy awyren yn dynesu at Faes Awyr Brown Field yn San Diego pan fuon nhw mewn gwrthdrawiad. Fe aeth y ddwy ar dân cyn syrthio i’r ddaear.