Tony Abbott - yn erbyn
Mae’n ymddangos bod plaid y Llywodraeth yn Awstralia wedi rhoi’r caibosh ar ymgais i wneud priodasau hoyw’n gyfreithlon yn y wlad.

Fe bleidleisiodd aelodau’r blaid Geidwadol yno o 66-33 o blaid gosod chwip ar bleidlais ar y mater ddydd Llun.

Fe fyddai hynny’n golygu bod disgwyl i’w holl ASau bleidleisio yn erbyn priodasau hoyw.

Refferendwm

Mae’r Prif Weinidog, Tony Abbott, sy’n Babydd ac yn cael ei ystyried yn geidwadwr cymdeithasol, wedi addo refferendwm i’r bobol os bydd yn ennill yr etholiad yn nes ymlaen eleni.

Ond fe rybuddiodd bod y newid yn un mawr ac mae’r Llywodraeth yn gwrthwynebu’r cynnig ar hyn o bryd.

Dyw hi ddim yn glir eto a fydd y cynnig yn mynd i bleidlais ac fe allai rhai o’r Ceidwadwyr wrthryfela.

Yn ôl polau piniwn, mae mwyafrif pobol Awstralia o blaid.