Protestiadau Ferguson
Mae heddlu yn Missouri wedi arestio bron i ddau ddwsin o bobol yn ninas Ferguson, yn ystod pedwaredd noson o brotestiadau i nodi blwyddyn ers saethu’n farw y dyn ifanc croenddu, Michael Brown.

Mae St Louis County wedi cyhoeddi stad o argyfwng, ac mae hynny’n awdurdodi’r heddlu lleol i gymryd rheolaeth o’r ddinas a’r ardal o’i chwmpas.

Erbyn ben bore ddoe (dydd Llun) roedd cannoedd o bobol wedi ymgynnull ar hyd West Florissant Avenue, y brif ffordd lle bu protestiadau anferthol wedi i’r bachgen 18 oed gael ei saethu’n farw ar Awst 9, 2014.

Fe fu’r protestwyr yn siantio, yn curo drymiau ac yn cario arwyddion.

Pan symudodd rhai o’r protestwyr i sefyll ar lon draffig, fe ddaeth swyddogion yr heddlu yn gwisgo dillad reiat i’w gorfodi o’r ffordd. Fe daflwyd poteli dwr a cherrig at yr heddlu.