Mae beth bynnag 42 o bobol wedi’u lladd yn Irac, wedi i ddwy fom ffrwydro mewn dwy ardal wahanol yn rhanbarth Diyala.

Fe ffrwydrodd bom car mewn marchnad ger prifddinas rhanbarth Baquba, gan ladd 35 o bobol ac anafu beth bynnag 72 arall.

Yna, fe ffrwydrodd hunanfomiwr ddyfais mewn ardal lawn tai yn Kanaan, gan ladd saith o bobol ac anafu 15.

Mae trigolion Diyala wedi bod yn galw am fwy o fesurau diogelwch, wedi i’r grwp IS fomio marchnad boblog y mis diwetha’, gan ladd 115 o bobol. Roedd merched a phlant ymhlith y meirw.