Cecil, y llew
Mae Arlywydd gwlad Zimbabwe, Robert Mugabe wedi ymyrryd yn y ddadl dros saethu’r llew Cecil, gan ddweud dylai adnoddau naturiol y wlad cael ei diogelu rhag “fandaliaid” o dramor.

Siaradodd Robert Mugabe ar y pwnc ar deledu yn Zimbabwe ar ddiwrnod Arwyr y wlad sy’n cofio’r rhai bu farw yn y rhyfel cartref i ddisodli llywodraeth leiafrifol croen wyn y wlad.

Dywedodd bod holl adnoddau naturiol Zimbabwe sy’n cynnwys anifeiliaid gwyllt megis Cecil, yn eiddo i’r trigolion.

“Chi bia’r adnoddau naturiol hyd yn oed Cecil y Llew. Bu farw oherwydd i chi fethu ei ddiogelu.

“Mae yna ymwelwyr yn dod yma o bob cwr, ac mae rhai ohonynt yn barod i ymddwyn yn anghyfreithlon fel fandaliaid.”

Esboniodd Robert Mugabe na ddylid saethu anifeiliaid gwyllt gyda bwn na bwa a saeth a’i fod wedi cael ei ddysgu pan yn saith neu wyth oed i’w parchu fel “greaduriaid Duw.”

Mae helwyr proffesiynol a pherchennog fferm wedi ymddangos mewn llys ar gyhuddiadau o gynnal helfa anghyfreithlon.

Roedd aelod o lywodraeth Zimbabwe yn galw am estraddodi’r deintydd, James Walter Palmer, o’r Unol Daleithiau am ladd y llew.