Mae dyn 27 oed wedi osgoi cael ei ddedfrydu i farwolaeth am saethu 12 o bobol yn farw mewn sinema yn nhalaith Colorado yn 2012.

Penderfynodd y rheithgor yn yr achos y dylai James Holmes dreulio gweddill ei oes dan glo heb fod ganddo’r opsiwn o barôl.

Doedden nhw ddim wedi gallu dod i gytundeb unfrydol y dylai wynebu’r gosb eithaf.

Yn gynharach yn yr achos, gwrthododd y rheithgor ble gan Holmes nad oedd e yn ei iawn bwyll.

Roedd sioc, siom a thristwch yn y llys wrth i’r ddedfryd gael ei chyhoeddi, ond nid oedd Holmes wedi dangos unrhyw emosiwn.

Dywedodd un aelod o’r rheithgor ar ddiwedd yr achos fod un ohonyn nhw’n gwrthod rhoi’r gosb eithaf, a dau arall yn ansicr a hynny oherwydd ei iechyd meddwl.

Roedd yr erlynwyr yn dadlau bod Holmes wedi mynd ati i gynllunio’r ymosodiad yn ofalus wrth i’r ffilm ‘Batman: The Dark Knight Rises’ gael ei dangos yn y sinema ganol nos.

Roedd cyfreithwyr Holmes yn dadlau bod sgitsoffrenia ar fai am yr ymosodiad.

Roedd y rheithgor wedi ystyried yr achos am chwech awr a hanner dros gyfnod o ddeuddydd cyn cyflwyno’r ddedfryd.

Dim ond un person sydd wedi wynebu’r gosb eithaf yn nhalaith Colorado ers 1977.

Ddwy flynedd yn ôl, cynigiodd Holmes bledio’n euog pe bai’n osgoi’r gosb eithaf, ond fe wrthododd erlynwyr y cynnig.

Dywedodd y prif erlynydd ei fod yn rhwystredig na chafodd Holmes ei ddedfrydu i farwolaeth, ond roedd yn barod i ganmol y rheithgor am eu gwaith.

Dywedodd ei fod hefyd wedi ymddiheuro wrth deuluoedd y rhai gafodd eu lladd.