Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Rhydychen wedi wfftio adroddiadau bod ail lew wedi cael ei ladd yn Zimbabwe.

Roedd adroddiadau bod Jericho wedi cael ei ladd gan helwyr, yn dilyn digwyddiad tebyg pan gafodd Cecil ei ladd yr wythnos diwethaf.

Ond mae cadwriaethwyr yn mynnu bod Jericho “yn fyw ac yn iach”.

Mae’r ymchwilwyr ym Mhrifysgol Rhydychen wedi cyhoeddi llun sy’n dangos bod yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan Dasglu Cadwraeth Zimbabwe yn anghywir.

Dywedodd yr Athro David Macdonald Uned Ymchwil Cadwraeth Bywyd Gwyllt Prifysgol Rhydychen: “Neithiwr, fe gawson ni ein synnu i weld honiadau’r cyfryngau bod ail lew, Jericho wedi marw – doedd gennym ni ddim tystiolaeth o hyn.

“Roedd honiad hefyd ei fod wedi cael ei hela’n anghyfreithlon.”

Dywedodd fod pennaeth o’r Parciau Cenedlaethol wedi mynd allan i chwilio amdano yn dilyn yr adroddiadau.

Cafodd Jericho ei ddarganfod yn bwyta jiraff am 6.15 y bore.

Mae’r Athro Macdonald hefyd wedi wfftio adroddiadau oedd yn dweud bod Jericho yn frawd i Cecil, er bod ganddyn nhw gyfeillgarwch agos.

Mae’r awdurdodau’n ceisio estraddodi Walter Palmer, y deintydd o’r Unol Daleithiau oedd wedi lladd Cecil yn anghyfreithlon.

Maen nhw hefyd wedi cyflwyno gwaharddiad dros dro ar hela llewod, llewpardiaid ac eliffantod.

Mae’r Tasglu Cadwraeth wedi ymddiheuro am gyhoeddi adroddiad camarweiniol.