Mae awdurdodau bywyd gwyllt yn Zimbabwe wedi cyflwyno gwaharddiad dros dro ar hela llewod, llewpardiaid ac eliffantod ar ôl i ail lew gael ei ladd gan helwyr.

Mae gwaharddiad dros dro hefyd ar hela gyda bwa a saeth oni bai bod cyfarwyddwr yr Awdurdod Parciau Cenedlaethol a Bywyd Gwyllt yn rhoi caniatâd.

Dywedodd yr awdurdod eu bod nhw’n ymchwilio i farwolaeth trydydd llew ym mis Ebrill, gan fod amheuon ei fod wedi’i ladd yn anghyfreithlon.

Daeth y wybodaeth i law’r awdurdodau’r wythnos hon yn dilyn protestiadau ar draws y byd ar ôl i Cecil y llew gael ei ladd gan helwr o’r Unol Daleithiau.

Mae awdurdodau Zimbabwe yn awyddus i estraddodi’r deintydd Walter Palmer oherwydd bod yr helfa’n anghyfreithlon.