Mae’r rapiwr, Snoop Dogg, wedi mynd ben-ben â’r awdurdodau yn Ewrop am yr ail dro mewn wythnos.

Fe gafodd ei rwystro heddiw gan heddlu ariannol yn ne’r Eidal, ac yntau’n cario $422,000 (£270,000) mewn arian parod. Mae hynny ymhell dros y swm sy’n cael ei ganiatau i unigolyn ei gario o fewn cyfandir Ewrop.

Fe ddaw’r digwyddiad hwn lai nag wythnos wedi i Snoop Dogg gael ei rwystro yn Sweden ar amheuaeth o ddefnyddio cyffuriau.