Mae arweinydd newydd y Taliban yn Afghanistan wedi galw am undeb ymhlith yr holl garfannau sy’n ymladd dros ei achos, gan addo parhau â’r frwydr.

Roedd recordiad o neges gyhoeddus gynta’ Mullah Akhtar Mohammad Mansoor hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at drafodaethau heddwch, er nad oedd hi’n glir os ydi o’n gefnogol iddyn nhw ai peidio.

Fe anfonwyd y neges at newyddiadurwyr ac eraill ben bore heddiw, a hynny wedi i’r Taliban gadarnhau ddydd Iau bod y cyn-arweinydd, Mullah Omar, wedi marw.

Ond fe gyhoeddodd llywodraeth Afghanistan ddydd Mercher fod Mullah Omar wedi marw ers mis Ebrill 2013.