Mae erlynwyr yn yr Almaen wedi rhoi’r gorau i’w hymchwiliad i saer coed 96 oed o Minnesota a fu ar un cyfnod yn un o brif swyddogion yr SS. Mae Michael Karkoc yn rhy hen a musgrell i fynd o flaen ei well, medden nhw.

Fe ddaw’r penderfyniad hwn dros ddwy flynedd wedi i asiantaeth newyddion yr Associated Press gyhoeddi stori oedd yn datgelu fod Michael Karkoc yn rheoli Uned Hunan Amddiffyn yr Wcrain, dan adain yr SS.

Mae’r uned honno’n cael ei chyhuddo o losgi pentrefi yn llawn merched a phlant, a hynny ar sail dogfennau sydd wedi dod i law a thystiolaeth sydd wedi’i chyflwyno gan dystion a chyn-aelodau o’r Uned. Roedd Michael Karkoc ei hun, hefyd, wedi cyhoeddi cyfrol o’i atgofion a oedd yn datgelu rhai manylion allweddol.

“Fe ddylai’r Unol Daleithiau fod wedi bod yn ymwybodol o’i bresenoldeb yn y wlad, ac o’i gefndir, ers tro byd,” meddai Efraim Zuroff, un o brif helwyr y Natsïaid ar ran Canolfan Simon Wiesenthal.

“Os oedden nhw’n ymwybodol o hynny, a’u bod nhw ddim wedi gweithredu ar y wybodaeth honno, mae’n fethiant mawr ar eu rhan.”

Ond mae mab Michael Karkoc, Andriy, wedi canmol penderfyniad yr Almaen i roi’r gorau i erlyn ei dad. Er hynny, mae’n dweud na fydd ei dad byth yn gallu codi uwchlaw y baw sydd wedi’i daflu ato yn y wasg ac ar y cyfryngau.

“Roedd fy nhad yn ddieuog,” meddai, “ac mae’n dal i fod yn ddieuog.”

My father was and is innocent,” he said.