Mae hacwyr wedi bod yn anfon negeseuon ffug at berchnogion cyfrifiaduron sy’n rhedeg ar Windows, wrth i gwmni Microsoft gynnig uwchraddio eu Windows diweddara’ i’r fersiwn newydd, Windows 10.

Mae arbenigwyr diogelwch yn rhybuddio fod ton o e-byst ffug wedi’u hanfon allan gydag atodiadau niweidiol i beiriannau ond sydd wedi’u labelu fel fersiynau dilys o’r rhaglen newydd.

Mae’r atodiadau hyn yn cynnwys rhaglen ‘ransomware’ sydd, o’i hagor, yn cloi’r holl wybodaeth ar y cyfrifiadur cyn mynnu taliad i’w rhyddhau.

Mae’r negeseuon e-bost wedi’u cynllunio er mwyn edrych yn union fel neges uwchraddio swyddogol gan Microsoft, ond mae nifer o’r geiriau wedi’u camsillafu neu eu hatalnodi mewn ffordd od.