Milwyr IS yn anelu at Iraciaid (PA)
Dyw ymgyrch fomio’r Unol Daleithiau ddim wedi gwanhau’r garfan filwrol eithafol, IS, yn ôl asesiad gan wasanaethau cudd y wlad.
Mae IS cyn gryfed heddiw ag yr oedd flwyddyn yn ôl, meddai’r adroddiad gan y CIA ac Asiantaeth Wybodaeth Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau.
Ar ben hynny, mae’r asiantaethau’n poeni bod IS yn achosi ymosodiadau brawychol y tu allan i’r Dwyrain Canol
‘Dim gostyngiad’
Er bod amcangyfrif fod 10,000 o ryfelwyr IS wedi eu lladd ers dechrau’r ymgyrch fomio, mae’r asesiad wedi dod i’r casgliad nad yw rhifau IS yn gostwng, am fod cymaint o bobol yn teithio i’r rhanbarth i ymuno â nhw.
Er hyn, mae’r asiantaethau yn dweud bod yr ymgyrch wedi arbed Llywodraeth Irac rhag cwympo a bod cydweithio gyda milwyr Cwrdaidd a gwrthryfelwyr o Syria yn rhoi pwysau milwrol ar Raqqa, prif ddinas IS.
Mae amcangyfrif bod IS yn derbyn tua £320miliwn wrth werthu olew a bod yr awdurdodau wedi cael gafael ar asedau gwerth £641miliwn o gyfrifon banc y garfan.