Mae cwmni olew Shell wedi cyhoeddi y bydd 6,500 o staff yn colli eu swyddi yn ystod y  flwyddyn.

Daw’r penderfyniad wrth i bris olew ostwng yn sylweddol, ac wrth i’r cwmni anelu at leihau eu costau o 10% – neu £2.6 biliwn – ar gyfer 2015.

Mae disgwyl i’r cwmni wneud rhagor o doriadau ariannol y flwyddyn nesaf.

Dyma’r tro cyntaf i gwmni Shell gyhoeddi faint o swyddi fydd yn cael eu colli, ond fe ddywedon nhw fod y mwyafrif o’r toriadau eisoes wedi cael eu cyhoeddi cyn hyn, gan gynnwys 500 yng ngwledydd Prydain.

Mae swyddi eraill wedi cael eu colli yn Norwy, yr Unol Daleithiau a Nigeria a bellach, mae gan y cwmni 94,000 o weithwyr ar draws y byd.

Mae cofnodion ariannol y cwmni ar gyfer yr ail chwarter yn dangos cwymp o 35% mewn enillion.

E gwaetha’r colledion, mae disgwyl i’r cwmni barhau â’r cynllun i brynu BG yn 2016 – y pryniant mwyaf yn y sector olew ers i gwmni Exxon brynu Mobil yn 1998.