Alexis Tsipras
Er nad yw Prif Weinidog Gwlad Groeg ei hun am weld etholiadau cynnar, mae’n rhybuddio y gall gwrthryfelwyr radical asgell chwith ei blaid Syriza, ei orfodi i wneud hynny.

Dywedodd Alexis Tsipras y byddai’n galw am etholiadau cenedlaethol pe byddai’n colli’r mwyafrif pleidiol yn y Senedd.

Mae ei fwyafrif wedi’i herio wrth i rai o aelodau’i blaid wrthwynebu’r trafodaethau sy’n cael eu cynnal am y pecyn ariannol rhyngwladol newydd.

Mewn cyfweliad â gorsaf radio Syriza, Sto Kokkino, dywedodd y Prif Weinidog ei fod am gynnal cyngres ym mis Medi i benderfynu ar ddyfodol y blaid.

Ond, mae am selio’r cytundeb ariannol yn derfynol yn gyntaf, ac mae’n rhaid gwneud hynny erbyn 20 Awst 2015.

Mae’r trafodaethau’n parhau am delerau’r cytundeb ariannol rhyngwladol a fydd yn cynnig 85 biliwn ewro (£60 biliwn) i Wlad Groeg.

Dyma’r trydydd cytundeb ariannol i Wlad Groeg o fewn pum mlynedd.