Cecil y llew
Mae deintydd o’r Unol Daleithiau sydd wedi ei gyhuddo o ladd llew yn anghyfreithlon yn Zimbabwe wedi dweud ei fod yn credu bod yr helfa yn gyfreithlon.

Roedd y llew, o’r enw Cecil,  dan warchodaeth ym Mharc Cenedlaethol  Hwange yn Zimbabwe pan gafodd ei ladd gyda bwa saeth ar ddechrau mis Gorffennaf.

Roedd Walter Palmer wedi talu $50,000 am y cyfle i hela yn Zimbabwe, ond mae’n mynnu  ei fod wedi cael ar ddeall fod yr helfa yn gyfreithlon.

Mae  wedi troseddu yn y gorffennol am saethu arth ddu yn nhalaith Wisconsin.

Roedd yr awdurdodau yn Zimbabwe wedi cyhoeddi enw’r deintydd o’r Unol Daleithiau fel un o’r rhai sy’n wynebu cyhuddiadau o botsio.

Ond mae Walter Palmer yn dweud nad yw wedi clywed gan yr awdurdodau yn Zimbabwe nac yn yr Unol Daleithiau.

Mewn datganiad, dywedodd Walter Palmer nad oedd yn ymwybodol o statws Cecil yn Zimbabwe:  “Nid oedd gen i syniad fod y llew wnes i ladd, yn adnabyddus ac yn ffefryn lleol, ac yn rhan o astudiaeth, nes i’r helfa ddod i ben. Roeddwn i yn dibynnu ar arbenigedd trefnwyr proffesiynol lleol y daith i sicrhau fod yr helfa yn gyfreithlon.”

Yn ô cofnodion llys yn yr Unol Daleithau, plediodd Walter Palmer yn euog yn 2008 o wneud datganiad ffug i Wasanaeth Bywyd Gwyllt a Physgod yr Unol Daleithau am arth ddu a laddodd yn Wisconsin yn 2006.

Mae marwolaeth Cecil wedi cythruddo cadwraethwyr, gyda’r stori wedi ennyn ymateb byd-eang ar wefannau cymdeithasol.