Obama a Cameron (PA)
Mae Barrack Obama wedi rhybuddio’r Deyrnas Unedig y byddai’n colli dylanwad yn y byd pe bai’n gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac fe ddywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau fod presenoldeb y Deyrnas Unedig yn yr Undeb yn “llawer mwy o hyder” iddo yn y berthynas gydag Ewrop.

“Mae cael y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi llawer mwy o hyder am ein perthynas ar draws cefnfor yr  Iwerydd,” meddai mewn cyfweliad gyda’r BBC.

“ Mae’n rhan holl bwysig o’r sefydliadau a adeiladwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd sydd wedi gwneud y byd yn fwy diogel ac yn fwy llewyrchus.

“Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod y Deyrnas Unedig yn parhau i gael y dylanwad yna.”

Mae’r sylwadau’n dilyn datganiad tebyg gan Barrack Obama yng nghyfarfod arweinwyr gwledydd G7 yn yr Almaen ym mis Mehefin.