Mae dwy ddynes wedi marw, wedi stampîd mewn gwyl grefyddol yn nwyrain India.

Mae beth bynnag ddeg o bobol eraill wedi brifo yn y rhuthr yng ngwyl gerbydau Rath Yatra yn nhre’ demlog Puri yn nhalaith.

Yn ol adroddiadau’r heddlu, fe ymchwyddodd y dorf, a rhuthro i gyfeiriad cerbyd oedd yn cael ei gario mewn prosesiwn.

Mae dau o’r rheiny sydd wedi’u cludo i’r ysbyty, mewn cyflwr difrifol.

Dyma’r ail ruthr angheuol mewn gwyl Hindwaidd yn India o fewn llai nag wythnos. Ddydd Mawrth, roedd degau o filoedd o bererinion wedi gwthio yn eu blaenau mewn gwyl ymdrochi grefyddol ar lan afon yn nhalaith Andhra Prasesh yn ne’r wlad, gan ladd 27 o bobol ac anafu dwsinau.