Mae mwy na 300 o bobol wedi’u hanafu mewn damwain yn ymwneud â thrên cymudwyr yn Ne Affrica.

Mae llefarydd ar ran Gwasanaethau Brys Johannesburg wedi cadarnhau fod 326 o bobol wedi cael eu rhuthro i’r ysbyty yn diodde’ o fân anafiadau. Chafodd neb ei ladd yn y digwyddiad.

Mae swyddogion tân yn parhau i archwilio’r cerbyd, rhag ofn bod teithwyr yn parhau’n sownd yn y cerbydau.

Y gred ar hyn o bryd ydi fod y ddau drên ar yr un trac, a bod un trên wedi taro’n erbyn trên a oedd ar stop.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn ystod yr oriau brys rhwng dwy orsaf yn Johannesburg.