Anders Breivik
Mae Prifysgol Oslo wedi dweud bod y dyn laddodd 77 o bobol yn 2011 yn Norwy wedi cael lle ar gwrs yn astudio gwleidyddiaeth.

Bydd Anders Breivik yn astudio o’i gell – mae wedi ei ddedfrydu i 21 o flynyddoedd dan glo.

Yn Norwy mae gan bob carcharor yr hawl addysg uwch os ydyn nhw’n gymwys.

Bydd Breivik yn cychwyn ar ei waith academaidd fis nesaf.

“Mae’n bwysig i ni ei fod yn aros yn ei gell,” meddai Lisbeth Roeyneland o’r grŵp cefnogi dioddefwyr.

“I ni, mae’n amherthnasol os ydy e’n eistedd yno yn darllen ffuglen neu yn astudio llyf am wleidyddiaeth.”