Mae un person wedi’i drywanu gan darw a chwech arall wedi’u hanafu ar ôl rhedeg yn rhydd gyda theirw ar hyd strydoedd dinas Pamplona yng ngogledd Sbaen.

“Mae’r rhai a anafwyd yn cael eu trin yn ysbyty’r ddinas. Cafodd un ei drywanu o dan ei gesail gyda’r tarw,” meddai Jose Aldaba, llefarydd ar ran y Groes Goch yn Sbaen.

Digwyddodd y ras am 8am heddiw, ac fe barodd am tua dwy funud.

Dyma’r ras deirw gyntaf fel rhan o ŵyl San Fermin yn ninas Pamplona. Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yn flynyddol rhwng 6 a 14 Gorffennaf.

Fel rhan o’r ŵyl, mae pobol yn ymuno â chwe tharw wrth redeg drwy strydoedd cul y ddinas am 930 llath nes cyrraedd y cylch teirw.

Daeth yr ŵyl yn enwog yn dilyn nofel Ernest Hemingway yn 1926, The Sun Also Rises.

Mae’n denu nifer o ymwelwyr tramor bob blwyddyn.