Mae heddlu yn yr Iseldiroedd wedi mynd â 200 o bobol i’r ddalfa am anwybyddu gwaharddiad ar gyfarfod yn gyhoeddus. Fe ddigwyddodd hynny wedi dyddiau o brotestio, wedi i ddyn farw ar ôl cael ei roi yng ngharchar.

Fe fu reiat am bedair noson yn un o ardaloedd Yr Hâg lle mae canran uchel o fewnfudwyr yn byw, ac mae rhai wedi cymharu’r protestiadau gyda’r hyn ddigwyddodd yn yr Unol Daleithiau ar ôl marwolaethau dynion croenddu yn y ddalfa yno.

Mae’r erlynwyr sydd wrthi’n ymchwilio i farwolaeth Mitch Henriquez, dyn 42 oed o ynys Aruba yn y Caribî, yn dweud iddo, fwy na thebyg, farw o ddiffyg ocsigen, wedi iddo gael ei arestio mewn gwyl gerddoriaeth.

Mae pump heddwas wedi cael eu gwahardd o’u gwaith yn dilyn y farwolaeth.

Mae teulu Mr Henriquez wedi galw am orymdaith dawel fory, er cof amdano, ac maen nhw wedi gofyn i bawb roi’r gorau i wrthdystio.