Senedd Gwlad Groeg (Gerard McGovern CCA 2.5)
Fe fydd ralïau ‘Ie’ a ‘Na’ yn cael eu cynnal yr un pryd ynghanol prifddinas Gwlad Groeg heddiw ddeuddydd cyn i’r wlad bleidleisio ar dderbyn neu wrthod cyfyngiadau ariannol newydd gan fenthycwyr rhyngwladol.

Yn ôl rhai, fe allai pleidlais Na hefyd ddechrau’r broses i Roeg adael system ariannol yr Ewro; fe allai pleidlais Ie olygu bod y Llywodraeth sosialaidd yn ymddiswyddo.

Ond mae cyfweliadau gyda phobol leol yn awgrymu bod dryswch mawr, gyda llawer o bobol eisiau gwrthod y cyni sy’n cael ei orfodi ganddyn nhw, ond eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd hefyd.

Fe fydd y ddwy rali yn digwydd am 7.30 yn amser Groeg yng nghanol Athen a hynny ar ôl pum niwrnod o ymgyrchu.

‘Angen help’

Fe gynyddodd y pwysau ddoe wrth i un o’r benthycwyr, Cronfa Ariannol Ryngwladol yr IMF, ddatgan y byddai angen help ar Roeg i leihau pwysau ei dyled – gwerth tua £33 biliwn rhwng hyn a 2018.

Yn ôl rhai arbenigwyr, fe ddylai’r wybodaeth honno fod wedi ei chyhoeddi yn llawer cynt – cyn i Lywodraeth Gwlad Groeg alw’r refferendwm.

Fe ddaeth hynny ar ôl iddyn nhw wrthod cynnig diweddara’r IMF a’r Undeb Ewropeaidd yn cynnig benthyciadau pellach ar yr amod fod rhagor o doriadau gwario’n digwydd.

Roedd Groeg i fod wedi talu eu benthyciadau presennol yn ôl erbyn hanner nos dydd Mawrth, ond wnaeth hi ddim o hynny.

Yr oblygiadau

Mae anghytundeb am oblygiadau’r bleidlais hefyd, gyda Phrif Weinidog Gwlad Groeg, Alexis Tsipras, yn dweud y byddai modd dod i gytundeb gyda’r IMF a’r Undeb Ewropeaidd o fewn 48 awr i bleidlais Na.

Gwadu hynny y mae arweinwyr yr Undeb ei hun gan ddweud y gallai fod yn ddechrau’r diwedd i Wlad Groeg yn yr Ewro a’r Undeb ei hun.