James Horner
Mae’r cyfansoddwr James Horner, a enillodd Oscar am gyfansoddi’r gerddoriaeth yn y ffilm Titanic, wedi marw mewn damwain awyren yn ne California.

Roedd awyren fechan, sydd wedi’i chofrestru yn enw James Horner, 61 oed, wedi bod mewn damwain tua 9.30yb amser lleol ddoe ger Quatal Canyon ym Mharc Coedwig Genedlaethol Los Padres.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân bod y peilot wedi cael ei ladd ac nad oedd unrhyw un arall ar fwrdd yr awyren.

Yn ôl cyfreithiwr Horner, Jay Cooper, roedd yr awyren yn un o nifer sy’n berchen i’r cyfansoddwr ac nad oedd unrhyw un wedi clywed ganddo ers y ddamwain.

“Fe fyddai wedi ffonio os nad oedd o yn yr awyren,” meddai Jay Cooper.

Roedd Horner wedi cael ei enwebu am 10 Oscar, gan ennill dau yn 1997 am ei gerddoriaeth yn y ffilm Titanic. Horner oedd wedi cyfansoddi’r gân My Heart Will Go On a gafodd ei pherfformio gan Celine Dion.

Roedd hefyd wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y ffilmiau Alien, Apollo 13, Field of Dreams, Braveheart, A Beautiful Mind, House Of Sand And Fog ac Avatar.