Y llosgfynydd yn Sumatra, Indonesia
Mae pryderon bod llosgfynydd yn Indonesia yn barod i ffrwydro ar ôl iddo gael ei osod o dan oruchwyliaeth arbennig o risg uchel gan awdurdodau’r wlad.

Mae lludw poeth wedi bod yn tasgu o Fynydd Sinabung ar un o brif ynysoedd Indonesia, Sumatra, ers dydd Llun.

Cafodd trigolion eu rhybuddio i gadw draw o’r brif ardal risg, sy’n ymestyn pedair milltir o’r llosgfynydd.

“Mae’r mynydd yn ansefydlog iawn,” meddai arbenigwr, gan ddweud y gall nwyon poeth a cherrig ddisgyn ohono ar unrhyw adeg.

Mae Mynydd Sinabung ymysg tua 130 o losgfynyddoedd gweithredol yn Indonesia.