Papur chwareon L'Equipe yn adrodd am farwolaeth Jerry Collins
Mae cyn-flaenasgellwr y Gweilch a Seland Newydd, Jerry Collins, a’i wraig wedi cael eu lladd mewn damwain car yn Ffrainc, yn ôl adroddiadau.

Yn ôl y papur newydd o Ffrainc Le Figaro, fe ddigwyddodd y ddamwain am 4.30 o’r gloch y bore ar ffordd yr A9 heb fod ymhell o ddinas Beziers.

Cafodd Jerry Collins a’i wraig Alana Madill eu lladd ar unwaith ac mae eu merch dau fis oed Ayla mewn cyflwr difrifol mewn ysbyty ym Montpellier.

Mae llysgenhadaeth Seland Newydd ym Mharis wedi cadarnhau’r manylion bellach, ond hyd yn hyn dyw hi ddim yn glir sut ddigwyddodd y ddamwain.

Peth o’r manylion

Yn ôl papur newydd L’Equipe, roedd car Jerry Collins wedi stopio’n sydyn a bws oedd yn cludo 21 o deithwyr o Bortiwgal wedi taro i mewn iddo. Mae gyrrwr y bws hwnnw ac un o’r teithwyr wedi cael mân anafiadau.

Roedd Jerry Collins yn 34 oed ac wedi ennill 48 o gapiau dros yr All Blacks yn ystod ei yrfa, gan arwain y tîm fel capten dair gwaith.

Rhwng 2009 a 2011 fe chwaraeodd dros ranbarth y Gweilch, gan ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn y tîm yn 2010.