Mae glaw trwm yn dal i daro Texas heddiw wrth i’r awdurdodau chwilio am 11 o bobl sy’n dal ar goll yn y stormydd sydd wedi creu llifogydd ledled y dalaith.

Mae o leiaf 24 o bobl wedi cael eu lladd yn y stormydd yno dros yr wythnos ddiwethaf.

Mae dinas Dallas ymysg sawl rhan o’r dalaith sydd wedi profi mwy o law nag erioed o’r blaen y mis yma.

Hyd yn ddiweddar roedd y dalaith wedi dioddef sychder mawr, ond mae disgwyl i’r afonydd a’r llynnoedd fod yn uchel tan fis Gorffennaf eleni.

“Mewn llawer i le, rydyn ni wedi cael ein blwyddyn wlypaf erioed,” meddai Dennis Cain o wasanaeth tywydd cenedlaethol America.

“Rydyn ni’n sôn am ddigwyddiad 150 neu 200 mlynedd. Mae’n gwbl anhygoel.”