Dzhokhar Tsarnaev
Mae bomiwr Marathon Boston, Dzhokhar Tsarnaev, wedi cael ei ddedfrydu i’r gosb eithaf gan reithgor yn yr Unol Daleithiau.

Daeth y ddedfryd ychydig dros ddwy flynedd ers i dri o bobl gael eu lladd a 260 eu hanafu ar ôl i fom ffrwydro ar linell derfyn y marathon ar 15 Ebrill, 2013.

Mae’r ddedfryd wedi cael ei groesawu gan nifer o bobl yn Boston ac roedd ’na olygfeydd emosiynol yn y llys.

“Rydan ni’n gallu anadlu unwaith eto,” meddai Karen Brassard a gafodd anafiadau i’w choesau yn yr ymosodiad.

Roedd cyfreithwyr ar ran yr amddiffyniad wedi dadlau mai “llanc ifanc” ydoedd a oedd wedi cael ei ddylanwadu gan ei frawd hŷn, Tamelan Tsarnaev, 26 oed.

Apeliadau

Fe allai Dzhokhar Tsarnaev fod y brawychwr cyntaf i gael ei ddienyddio yn America ers ymosodiadau Medi 11, 2001 ond mae’n debyg y bydd cyfres o apeliadau a allai barhau am flynyddoedd.

Y disgwyl yw y bydd Tsarnaev yn cael ei anfon i garchar Terre Haute, yn Indiana, lle cafodd bomiwr Oklahoma, Timothy McVeigh ei ddienyddio yn 2001.

Fe gymrodd 14 awr i’r rheithgor gytuno ar eu dyfarniad. Roedd yn rhaid iddyn nhw ddod i ddyfarniad unfrydol er mwyn sicrhau bod Tsarnaev yn cael ei ddedfrydu i farwolaeth. Y dewis arall oedd dedfryd o garchar am oes heb obaith am barôl.

Cafwyd Tsarnaev yn euog fis diwethaf o 30 o gyhuddiadau yn ei erbyn, gan gynnwys defnyddio arf a fyddai’n achosi dinistr torfol, ac ymuno gyda’i frawd i osod dwy ddyfais ffrwydrol ger llinell derfyn y marathon.

Cafwyd Tsarnaev hefyd yn euog o ladd swyddog yr heddlu wrth iddo geisio ffoi.  Bu farw ei frawd, Tamerlan, ychydig ddyddiau ar ôl yr ymosodiad ar ôl cael ei saethu gan yr heddlu a’i daro gan gar oedd yn cael ei yrru gan Dzhokhar Tsarnaev wrth iddo geisio ffoi.

Roedd yr erlyniad wedi dadlau bod Dzhokhar Tsarnaev wedi cymryd rhan amlwg yn yr ymosodiad gan osod bom ar bafin tu ôl i grŵp o blant, gan ladd bachgen wyth oed, Martin Richard.

Dywedodd yr erlyniad bod Tsarnaev  hefyd yn ddiedifar am yr hyn a wnaeth.

Fe fydd y Barnwr George O’Toole yn cyhoeddi’r dyfarniad yn swyddogol yn ddiweddarach yn ystod gwrandawiad lle bydd cyfle i’r rhai gafodd eu hanafu yn yr ymosodiad, a Tsarnaev ei hun, i siarad.