Y diweddar BB King
Mae’r canwr, y cyfansoddwr a’r gitarydd blues BB King wedi marw yn 89 oed.

Bu farw’r cerddor – sy’n enwog am ganeuon fel ‘Lucille’, ‘Sweet Black Angel’ a ‘Rock Me Baby’ – yn ei gwsg yn ei gartref yn Las Vegas.

Yn enedigol o Mississippi, cychwynnodd ganu’r felan yn y 1940au cyn mynd ymlaen i ddylanwadu a mentora sawl gitarydd enwog arall, gan gynnwys Eric Clapton.

Gwerthodd filiynau o recordiau ledled y byd ac mae ei hanes i’w weld yn amgueddfa’r Blues Foundation Hall of Fame yn Memphis a’r Rock and Roll Hall of Fame yn Cleveland.

Derbyniodd ei 15fed Grammy yn 2009 am ei albym One Kind Favor.