Dzhokhar Tsarnaev
Fe fydd y rheithgor yn achos dyn sydd wedi ei gael yn euog o ffrwydro bom yn ystod Marathon Boston yn penderfynu beth yw ei dynged heddiw.

Mae Dzhokhar Tsarnaev yn ôl yn y llys ar ôl achos sydd wedi para pedwar mis.

Mae’r erlyniad yn dweud y dylai gael ei ddienyddio ond mae’r amddiffyniad yn dadlau y dylai gael dedfryd o garchar am oes.

Cafwyd Dzhokhar Tsarnaev, 21, yn euog o 30 o gyhuddiadau yn ei erbyn gan gynnwys  cynllwynio a defnyddio arf torfol dinistriol.

Cafodd tri o bobol eu lladd a mwy na 260 eu hanafu yn ystod y digwyddiad ar linell derfyn y marathon.