Benjamin Netanyahu
Mae Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu ac un o bleidiau eraill asgell dde’r wlad wedi dod i gytundeb ar y funud ola’ i ffurfio llywodraeth glymblaid newydd.

Cafodd y cytundeb rhwng ei blaid Likud a’r blaid genedlaetholgar Jewish Home ei chwblhau o fewn oriau i derfyn amser o hanner nos.

Roedd hefyd wedi llwyddo i gael cefnogaeth y blaid asgell dde Bayit Yehudi, sy’n golygu y bydd yn Brif Weinidog am y pedwerydd tymor yn olynol ers 1996.

Bargeinio caled

Saith wythnos ar ôl i blaid Likud ennill yr etholiad yn y wlad gyda 30 o seddi, roedd darogan y byddai Benjamin Netanyahu yn ei chael hi’n weddol hawdd i ffurfiol clymblaid.

Ond fe wnaeth y trafodaethau bara chwe wythnos gyda’r pleidiau eraill yn bargeinio’n galed tros gael mwy o ddylanwad.

Mae Benjamin Netanyahu bellach yn rheoli 61 allan o’r 120 o seddi seneddol.