Mae dyn o Dde Affrica sy’n dioddef o salwch tymor hir wedi cael caniatâd gan farnwr i ddod a’i fywyd ei hun i ben – er nad yw ewthanasia yn gyfreithlon yn y wlad.

Am y tro cyntaf erioed, fe ddyfarnodd y barnwr Hans Fabricius yn Pretoria bod hawl gan Robin Stransham-Ford, 65, i farw ac na fyddai cyhuddiadau yn cael eu dwyn yn erbyn y doctor fydd yn gyfrifol am y weithred.

Credir mai dim ond wythnosau yn unig sydd gan Robin Stransham-Ford, sy’n dioddef o ganser ac mewn poen yn barhaol, ar ôl i fyw.

Mae grŵp hawliau DignitySA yn cefnogi’r dyfarniad ond mae’r Adran Gyfiawnder yn bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.