Mae dwsin a mwy o ddisgyblion wedi eu hanafu, un ohonyn nhw’n ddifrifol, wrth i lwyfan chwalu yn ystod perfformiad theatrig mewn ysgol yn Indiana, America.

Chwalodd y llwyfan yn Westfield High School, tua 20 milltir i’r gogledd o Indianapolis.

Roedd nifer fawr o bobol ifanc ar lwyfan yn perfformio grand finale American Pie pan chwalodd y llwyfan.

Ond er gwaetha’r ddamwain, bydd gwersi yn parhau yn nosbarthiadau’r ysgol heddiw.