Yr heddlu tu allan i'r ysgol yn Sbaen
Mae  bachgen 13 oed wedi cael ei arestio ar ol i athro gael ei ladd a nifer o ddisgyblion eu hanafu mewn ysgol yn Barcelona.

Yn ol adroddiadau cafodd yr athro ei ladd gyda bwa croes.

Cafodd pedwar disgybl arall eu hanafu yn yr ymosodiad, a ddigwyddodd mewn ysgol ar gyfer plant 12-16 oed yn ardal Sant Andreu.

Nid yw hi’n hysbys ar hyn o bryd os yw’r bachgen yn ddisgybl yn yr ysgol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu yn lleol bod y bachgen wedi defnyddio arf i ladd yr athro.