Ffoaduriaid ym Môr y Canoldir
Mae gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael hi’n anodd delio’r â’r niferoedd uchel “digynsail” o ffoaduriaid sy’n croesi Môr y Canoldir.

Daw’r rhybudd ddiwrnod wedi adroddiadau bod 400 o ffoaduriaid wedi boddi yr wythnos hon wrth geisio teithio o Affrica a’r Dwyrain Canol i Ewrop.

Yn sgil tlodi a gwrthdaro, mae tua 10,000 o fewnfudwyr wedi ceisio cael mynediad i’r UE yn yr wythnos ddiwetha’ yn unig – ond mae arbenigwyr yn poeni nad yw gwledydd yr UE wedi sefydlu cynllun i ddelio a’r niferoedd cynyddol.

Rhybuddiodd swyddog mewnfudwyr yr UE, Dimitris Avramopoulos, bod achosion fel yr un ym Môr y Canoldir “yn anffodus, y norm newydd ac fe fydd yn rhaid i ni newid ein hymateb i weddu hynny.”