Gwn Taser
Mae’r heddlu yn Oklahoma yn dweud bod swyddog yr heddlu wrth gefn, wnaeth saethu dyn croenddu yn farw, yn meddwl ei fod yn gafael mewn gwn taser yn hytrach na dryll ar y pryd.

Cafodd y digwyddiad ei ffilmio ar fideo lle gwelir yr heddwas yn rhedeg ar ôl Eric Harris, 44, oedd yn cael ei amau o werthu gwn yn anghyfreithlon.

Wedi i’r heddwas danio’r gwn, mae’n dweud: “Dw i wedi ei saethu. Mae’n ddrwg gen i.”

Dywedodd yr awdurdodau yn Oklahoma bod yr heddwas wrth gefn, Robert Bates, 73,  yn ceisio defnyddio ei wn taser.

Cafodd y fideo ei chyhoeddi dros y penwythnos ar gais teulu Eric Harris.