Dzhokhar Tsarnaev
Fe fydd y rheithgor yn achos dyn sydd wedi ei gael yn euog o osod bom yn ystod Marathon Boston yn penderfynu beth yw ei dynged heddiw.

Cafwyd Dzhokhar Tsarnaev, 21, yn euog o 30 o gyhuddiadau yn ei erbyn gan gynnwys  cynllwynio a defnyddio arf torfol dinistriol.

Y ddedfryd ar gyfer 17 o’r cyhuddiadau yw’r gosb eithaf.

Roedd cyfreithwyr Tsarnaev eisoes wedi cyfaddef ei fod wedi cymryd rhan yn y bomio.

Mae’r cyn-fyfyriwr wedi’i gael yn euog o achosi marwolaeth tri o bobl fu farw yn y bomio ynghyd â lladd heddwas a gafodd ei saethu’n farw gan Tsarnaev wrth iddo ffoi gyda’i frawd, Tamerlan, ddyddiau’n ddiweddarach.

Mae’r amddiffyniad yn honni fod Tsarnaev wedi cael ei ddylanwadu gan ei frawd hŷn, Tamerlan Tsarnaev, 26, y credir oedd wedi cynllwynio’r bomio.  Fe fyddan nhw’n dadlau y dylai gael dedfryd o garchar am oes yn hytrach na’r gosb eithaf.

Cafodd 260 o bobl eu hanafu pan ffrwydrodd y bom ger llinell derfyn Marathon Boston ar Ebrill 15, 2013.

Fe fydd yn rhaid i’r rheithgor benderfynu’n unfrydol y dylai wynebu’r gosb eithaf, neu fe fydd yn cael dedfryd o garchar am oes.