Mae Groeg wedi addo wrth y Gronfa Ariannol Ryngwladol y bydd hi’n ad-dalu benthyciad mawr erbyn diwedd yr wythnos hon.
Mae’r wlad wedi bod yng nghanol trafodaethau anodd gyda chredydwyr ynglyn â threfn talu’n ôl yr arian sy’n ddyledus ganddi. Roedd siwtiau Athen wedi gobeithio y byddai’r Gronfa yn dweud na fyddai’n rhaid talu popeth sy’n ddyledus, a hynny er mwyn gallu talu cyflogau a phensiynau gartre’. Ond nid felly y mae.
“Mae’r ddwy ochr bellach yn gytûn fod cydweithio ar y mater yma o ddiddordeb i bawb,” meddai Pennaeth yr IMF, Christine Lagarde.
“Mi wnaethon ni’r pwynt nad yw parhau yr ansicrwydd o les i neb, gan gynnwys Groeg ei hunan.”
Mae’n rhaid i Groeg ad-dalu dyled o 450 miliwn ewro (£331m) ddydd Iau yr wythnos hon.