Mae gwrthryfelwyr Islamaidd bellach wedi cymryd drosodd y rhan helaetha’ o wersyll ffoaduriad Palesteinaidd ar gyrion dinas Damascus yn Syria.

Mae’r gwrthryfelwyr yn cynnwys aelodau o’r Islamic State a’r Nusra Front. Mae’r ddau grwp yn cwffio’n erbyn ei gilydd yng ngweddill y wlad, ond mae’n ymddangos eu bod nhw’n gweithio gyda’i gilydd wrth ymosod ar wersyll Yarmouk.

Ond mae adroddiadau o’r tu mewn i’r gwersyll yn awgrymu fod yna grwpiau’n ffurfio ymhlith y gwersyllwyr, sy’n ceisio cael gwared â’r gwrthryfelwyr oddi yno.

Fe orfododd yr Islamic State eu hunain i mewn i’r gwersyll ddydd Mercher yr wythnos hon, wrth geisio gwneud ei ffordd i mewn i ddinas Damascus. Erbyn hyn, mae IS yn rheoli tua hanner y gwersyll.