Mae miloedd o brotestwyr gwrth-Islam a gwrth-hiliaeth wedi mynd ben-ben mewn raliau ledled Awstralia.
Fe fu’r ymladd mwya’ treisgwr yn Melbourne, ail ddinas fwya’r wlad, lle mae’r heddlu’n cael trafferth heddiw i wahanu’r protestwyr.
Roedd grwp cymunedol ‘Reclaim Australia’, wedi trefnu protestiadau yn erbyn eithafiaeth Islamaidd mewn 16 o ddinasoedd a threfi yn Awstralia.
Maen nhw hefyd yn gwrthwynebu “Islameiddio” cymdeithas yn Awstralia, ynghyd a chyfraith Sharia a darparu cigoedd Halal.