Mae dyn sydd wedi’i ryddhau wedi treulio bron i 30 mlynedd ar Death Row, yn dweud y bydd yn rhaid i’r bobol a’i cafodd yn euog yn y lle cynta’ “ateb i Dduw”.

Fe gafodd Ray Hinton ei ryddhau o garchar yn nhalaith Alabama ddoe, wedi i erlynwyr roi’r gorau i’w hymgyrch i’w roi ar brawf am yr ail waith.

Fe gafwyd Ray Hinton yn euog o ladd dau weithiwr bwyty bwyd cyflym yn 1983. Yr unig dystioaeth yn ei erbyn oedd bwledi a ganfuwyd yn y fan a’r lle.

Mae ymchwiliad newydd, a gwyddoniaeth, bellach yn cadarnhau na ellid cysylltu’r bwledi i wn Ray Hinton.