Mae cyn-Brif Weinidog Israel, Ehud Olmert, wedi ei gael yn euog o dderbyn llwgrwobrwyon.

Mae ei gyfreithwyr, mewn ymateb, wedi dweud y byddan nhw “o bosib” yn apelio yn erbyn y penderfynion yn Llys Ardal Jerwsalem. Fe fydd Mr Olmert yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach.

Fe benderfynodd achod yn 2012 ei fod yn ddieuog o gyfres o gyhuddiadau a oedd yn cynnwys derbyn amlenni yn llawn arian parod yn werth cannoedd o filoedd o ddoleri gan ddyn busnes Americanaidd o’r enw Morris Talansky. Roedd hynny cyn i Ehud Olmert ddod yn brif weinidog.

Ond fe gafodd tystiolaeth newydd ei chyflwyno, wedi i gyn-rheolwraig swyddfa Mr Olmert droi’n un o brif dystion y wladwriaeth. Roedd ganddi dapiau o sgyrsiau gydag o yn trafod derbyn yr arian.