Amanda Knox adeg gwrandawiad cynharach
Fe fydd barnwyr yn Llys Goruchaf yr Eidal yn penderfynu heddiw a ydyn nhw’n cadarnhau dedfrydau fod Amanda Knox a Raffaele Sollecito wedi llofruddio’r fyfyrwraig o Loegr, Meredith Kercher.

Roedd disgwyl dyfarniad ddoe, ond fod y dadleuon cyfreithiol wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl.

Fe fydd y dyfarniad yn rhoi diwedd ar wyth mlynedd o ymrafael gyda’r pendil yn mynd o un ochr i’r llall sawl tro.

Y cefndir

Roedd Meredith Kercher, 21 o Surrey, yn astudio yn Perugia yn yr Eidal ar y pryd, pan ymosodwyd arni yn rhywiol a’i thrywanu yn ei llofft yn 2007.

Roedd Amanda Knox, a fu’n rhannu fflat gyda hi, ynghyd â’i chariad Raffaele Sollectio, wedi treulio pedair blynedd yn y carchar am lofruddiaeth cyn cael eu rhyddhau ar apêl yn 2011.

Dychwelodd Amanda Knox i’r Unol Daleithiau cyn i lys apêl arall wyrdroi’r ail benderfyniad a dweud bod y ddedfryd wreiddiol yn ddilys.

Penderfynu

Mae Llys Goruchaf yr Eidal yn gorfod penderfynu heddiw a ydyn nhw’n cadarnhau’r dyfarniad terfynol.

Fydd Amanda Knox ddim yn y llys i glywed y penderfyniad – mae hi bellach yn ôl yn yr Unol Daleithiau, yn gweithio mewn newyddiaduraeth.