Mae claf yn Liberia wedi profi’n bositif am Ebola – bythefnos yn unig wedi i’r achos ola’ o’r feirws gael ei wella yn y wlad.

Liberia oedd y wlad â’r nifer mwya’ o farwolaethau o ganlyniad i’r don ddiweddara’ o Ebola, ond roedd wedi bod am bythefnos heb gofnodi’r un achos newydd. Tan nawr.

Mae awdurdodau’r wlad wedi cadarnhau fod gwraig wedi profi’n bositif am y feirws, a’i bod yn byw yn y brifddinas, Monrovia.

Mae’r wraig bellach yn derbyn triniaeth mewn canolfan arbenigol.