Mae dyn 63 oed wedi’i saethu ym maes awyr rhyngwladol New Orleans, wedi iddo anafu giard diogelwch gyda machete a chwistrellu dau giard arall gyda chemegyn lladd pryfed.

Yn ôl yr awdurdodau, roedd Richard White yn ciwio yn yr ardal o’r maes awyr lle mae swyddogion yn gofyn am gael gweld tocynnau teithwyr, pan ddaeth giard ato a’i holi.

Ymateb Richard White, yn ôl swyddogion y maes awyr, oedd chwistrellu’r giard, cyn taro dynes gyda’r machete ar ei braich dde. Fe chwistrellodd y giard eto, cyn i drydydd swyddog diogelwch ei saethu – yn ei frest, yn ei goes chwith ac yn ardal ei wyneb.

Mae Richard White yn dal yn fyw, ac yn derbyn triniaeth mewn ysbyty.