Mae Taoiseach Iwerddon Enda Kenny wedi cael ei feirniadu gan un o’i weinidogion ei hun am wrthod ateb cwestiwn yn Saesneg yn ystod cynhadledd flynyddol Seachtain na Gaelige yr wythnos diwethaf.

Mae Kenny wedi’i gyhuddo o ddefnyddio’r iaith Wyddeleg fel ffordd o osgoi ateb cwestiwn gan un o’i wrthwynebwyr.

Dywedodd Aodhan O’Riordain, aelod o blaid Lafur Kenny, y dylai’r Taoiseach fod wedi ateb y cwestiwn gan Mick Wallace yn Saesneg.

Roedd Wallace wedi gofyn i Kenny a fyddai’n crybwyll materion hawliau dynol gyda’r Arlywydd Barack Obama yn ystod ymweliad â’r Unol Daleithiau ddydd Mawrth.

Dechreuodd Kenny ateb yn y Wyddeleg, ac fe ofynnodd Wallace iddo siarad yn Saesneg gan nad oedd yn deall ei ateb.

Dywedodd Kenny wrtho am wisgo’i glustffonau er mwyn manteisio ar y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

Bloeddiodd: “Allwch chi fy nghlywed i? A yw e wedi’i droi ymlaen? Hon yw ein hiaith genedlaethol…”

Wrth feirniadu ymateb Kenny heddiw, dywedodd O’Riordain, sy’n medru’r Wyddeleg, fod agwedd y Taoiseach yn enghraifft o’r rhesymau pam fod cymaint o bobol yn gwrthwynebu’r Wyddeleg.

“Mae’r Wyddeleg yn bwysig iawn i fi ac rwy’n ei defnyddio mor aml â phosib. Ond ni ddylem ei defnyddio er mwyn cau allan.”

Dywedodd Dara Calleary o blaid Fianna Fail fod agwedd Kenny yn “ofnadwy o haerllug”.